Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Sian Lloyd
16/09/2018 Duración: 44minMae newyddiaduraeth wedi bod o ddiddordeb i Sian Lloyd ers pan oedd yn ifanc.Roedd yn rhan o griw a sefydlodd bapur newydd yn ei hysgol, ac ar gyfer ei herthygl gyntaf ymunodd â'r wasg yng ngorsaf reilffordd Wrecsam, i adrodd ar ymweliad gan y Dywysoges Diana.Wrth sgwrsio â Beti George, mae'n gweithio i wasanaeth newyddion rhwydwaith y BBC, yn gohebu ar straeon o Gymru, neu'n dod â gogwydd Cymreig i straeon newyddion y dydd.Cafodd Sian ei magu yn Birmingham, cyn i'r teulu symud i Wrecsam pan oedd yn 7 oed.Daw ei thad o Eifionydd yn wreiddiol, ond cwrddodd ei rhieni mewn capel yn Llundain, ac adleoli i Ganolbarth Lloegr.Yn ogystal â darlithio ym maes adeiladu, roedd ei thad yn teithio dramor gyda'r Cyngor Prydeinig, yn enwedig i wledydd yn Affrica, i sefydlu cyrsiau yno.Astudiodd Sian y gyfraith yn y coleg, a threuliodd gyfnodau yn hyfforddi yn Llundain a Hong Kong, cyn dilyn ei breuddwyd a chwilio am waith ym myd newyddiaduraeth.Mae wedi dal sawl swydd yng Nghymru, yn ogystal â gweithio i'r BBC yn Llundain a
-
Elin Fflur
09/09/2018 Duración: 44minMae Elin Fflur yn gwybod ers pan oedd yn ifanc na fyddai'n medru gwneud swydd sy'n golygu gwneud yr un peth bob dydd.Roedd ei magwraeth yn ardal Dwyran yn un ddelfrydol, meddai, ac mae wedi etifeddu ei dawn greadigol gan sawl aelod o'r teulu.Ystyriodd weithio gyda'r heddlu, cyn penderfynu canolbwyntio ar yrfa fel cantores, ac erbyn hyn fel cyflwynwraig hefyd.Wrth sgwrsio gyda Beti George, mae'n trafod y cyfleoedd a gafodd i ganu y tu allan i Gymru, gan gynnwys treulio amser yn America gyda'r rheolwr David Aspden a'r cynhyrchydd Jim Steinman. Yn y pen draw, fodd bynnag, plesio'r gynulleidfa o'i blaen yw'r peth pwysicaf un.Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd wybod na allai feichiogi'n naturiol, ac mae'n ystyried ei phrofiadau o driniaeth IVF yn rhes o rwystrau. Mae'n credu'n angerddol bod angen trafod IVF yn fwy agored, er mwyn cynorthwyo eraill i ddeall y broses.
-
Hefin Jones
22/07/2018 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio â Dr. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.Yn ogystal â bod yn uwch ddarlithydd yn y brifddinas, mae'n brysur iawn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd, ac yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y radio a'r teledu.Mae'n gwmni i Beti ar achlysur derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a hynny am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
-
Meic Birtwistle
15/07/2018 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio â'r newyddiadurwr a chyn-swyddog undebol Meic Birtwistle am ei fagwraeth yn Surrey, a'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg o ddifrif yn 13 oed.Enillodd ysgoloriaeth i Sandhurst, ond fe drodd ei gefn ar y fyddin wedi iddo gael ei radicaleiddio'n wleidyddol yn y coleg yn Abertawe.Bu'n cynorthwyo Jeremy Corbyn yn ystod ei ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae'n angerddol am yr angen i amddiffyn hawliau'n y gweithle a hawliau ieithyddol.
-
Alaw Griffiths
08/07/2018 Duración: 55minBeti George yn sgwrsio gydag Alaw Griffiths. Beti George chats with Alaw Griffiths.
-
Hefin Jones-Roberts
01/07/2018 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio gyda Hefin Jones-Roberts. Beti George chats with Hefin Jones-Roberts.
-
Siriol Burford
24/06/2018 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio â Siriol Burford, enillydd un o wobrau elusen Chwarae Teg yn 2017, sy'n cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod. Beti George chats with Siriol Burford.
-
Deri Tomos
18/06/2018 Duración: 46minEr bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt.Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd.Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad.Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, drwghoffi ffonau o bob math, cadw gwenyn a dysgu canu.Mae hefyd yn trafod datblygiadau gwyddonol o bob math ym maes iechyd, technoleg a'r gofod.
-
Eleri Twynog Davies
12/06/2018 Duración: 46minMae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grŵp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth.Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata.Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C.Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol.Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar
-
Bleddyn Jones
27/05/2018 Duración: 42minRygbi, crefydd ac addysg yw conglfeini bywyd Bleddyn Jones.Wedi ei fagu ym Mrynaman, symudodd i Gaerlŷr i fod yn athro ysgol gynradd, gan ymuno â thîm rygbi'r Leicester Tigers ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd.Er bod sawl un wedi dweud wrtho nad oedd yn ddigon tal na chryf i chwarae rygbi, bu'n faswr i Gaerlŷr 333 gwaith, ac mae nawr yn sylwebu ar eu gemau i orsaf leol y BBC ers deng mlynedd ar hugain.
-
David Williams
25/05/2018 Duración: 50minYn wreiddiol o Drawsfynydd, fe symudodd David Williams i'r Ganllwyd pan benodwyd ei dad yn brifathro yno. Symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn blentyn gan fod galw mawr am athrawon yno. Golygai hyn siwrnai 6 wythnos ar long. Pan oedd David Williams yn ei arddegau fe ddaeth y teulu yn ôl i Gymru ac fe aeth David ati i astudio newyddiaduraeth. Bu'n gweithio fel is-olygydd newyddion yn Swansea Sound, a rhwng 1977 ac 1987 roedd yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau teledu fel gohebydd 'Wales Today' a 'Wales This Week' gydag ITV. Daeth David Williams i sylw'r wasg ryngwladol yn sgil ambell i stori yr aeth ar ei hol, a bu hefyd yn gyflwynydd y rhaglen deledu Dragon's Eye, oedd yn cadw llygad ar weithgareddau ym Mae Caerdydd.
-
Arfon Jones
20/05/2018 Duración: 47minBeti George yn sgwrsio gydag Arfon Jones, Swyddog Maes Gobaith i Gymru, am gerddoriaeth Stravinsky, cyfnodau yn y carchar dros y Gymraeg, iachâd gwyrthiol ac argyfyngau ffydd. Ar ôl rhoi'r gorau i'w freuddwyd o fod yn chwaraewr ac athro soddgrwth oherwydd salwch, astudiodd am radd mewn diwinyddiaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio i hybu'r ffydd Gristnogol, yn enwedig ymysg pobol ifanc.Mae'n angerddol ynglŷn â chynorthwyo pobl i fynegi eu ffydd mewn dull sy'n berthnasol i'r ganrif hon.Fe sy'n gyfrifol am beibl.net, cyfieithiad llafar o'r Beibl, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd i astudio Groeg a Hebraeg er mwyn cwblhau'r gwaith hwnnw.
-
Gladys Pritchard
13/05/2018 Duración: 44minMonwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn.Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol.Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw.Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol.Pan ddaeth Eisteddfod Môn i Gaergybi yn 1979, pwy well i fod yn drysorydd, gan barhau yn y swydd honno hyd heddiw.Mae Gladys hefyd yn weithgar gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canŵio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn.Er nad oes ganddi fawr o amser rhydd, mae'n frodwraig brwd ac yn 'yarn bomber'.
-
Siân Lewis
29/04/2018 Duración: 46minBeti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd.Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas.Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio.Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid.Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl.Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?
-
Meirion Davies
22/04/2018 Duración: 47minYn actor ac yn ysgrifennwr, treuliodd Meirion Davies bron i ugain mlynedd yn gweithio mewn gwahanol swyddi yn S4C.Erbyn hyn, fe yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Gomer, ond yr hyn sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf iddo yw rhedeg Bridfa Heniarth yn Sir Gaerfyrddin.Etifeddodd Merion ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei rieni, ac fe etifeddodd hefyd ddawn artistig ei fam.Celf oedd ei fyd pan oedd yn ifanc, gan dderbyn gwersi yn Ysgol y Preseli gan yr artist Aneurin Jones. Mae ei ddyled yn fawr iddo am ei ysbrydoli a'i herio.Wedi cyfnod mewn coleg celf, aeth i astudio drama cyn dechrau gwneud bywoliaeth fel perfformiwr a sgriptiwr.I genhedlaeth o Gymry Cymraeg, bydd bob amser yn cael ei gysylltu â'r rhaglenni teledu Swig o'r 'Steddfod, a chymeriadau fel Horni a'r ddau Frank.Er hynny, yr hyn sydd wedi ei yrru trwy ei yrfa yw'r dyhead i wneud bywoliaeth er mwyn cynnal ei ddiddordeb ym myd bridio ceffylau.
-
Lena Charles
15/04/2018 Duración: 46minHel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon.Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo.Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn ni yn y rhaglen.Mae'n sôn wrth Beti am ei magwraeth ym Mlaengarw, gan gynnwys bywyd y cartref a dylanwad y capel, am Streic 1926, ac am weithio mewn ffatri arfau'n ystod yr Ail Ryfel Byd.Mae Lena hefyd wedi gweld sawl newid yn yr ardal yn ystod ei chan mlynedd o fywyd.
-
Mari Williams
08/04/2018 Duración: 43minBeti George yn sgwrsio â'r steilydd bwyd a'r cogydd, Mari Williams.Yn un o bedwar o blant, cafodd ei magu ar fferm ger Llannefydd. Aeth i Ysgol Glan Clwyd, ac ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio bwyd a maetheg.Ar ôl graddio, aeth i Efrog Newydd i weithio fel nani i deulu gyda chysylltiadau Cymreig.Dychwelodd i Brydain, gan weithio gyda rhai o'r archfarchnadoedd mwyaf fel steilydd bwyd, cyn symud i olygu cylchgronau bwyd.Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun, a newydd gyhoeddi ei llyfr ryseitiau cyntaf.Mae'n byw gyda'i phartner a'i mab yn Swydd Hertford ers dros bymtheng mlynedd.
-
Roger Williams
25/03/2018 Duración: 50minDramodydd ac awdur yw gwestai Beti, Roger Williams. Ganwyd Roger yng Nghasnewydd ond ei fagu yng Nghaerfyrddin. Roedd yn ysgrifennu'n greadigol tra yn yr ysgol, cyn mynd i Brifysgol Warwick i astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd. Mae Roger Williams wedi creu dramâu Cymraeg a Saesneg ac mae ei waith wedi ennyn sylw a chlod, gan gynnwys enwebiad BAFTA. Mae cyfres arall o "Bang" ar y gweill ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ffilm fydd i'w gweld yn y sinema. Mae Roger yn byw gyda'i ŵr a'i fab yng Nghastell Nedd.
-
Mair Jones, Dinbych
18/03/2018 Duración: 46minMair Jones o Ddinbych yw gwestai Beti'r wythnos hon. Mae'n un o sefydlwyr Ymddiriedolaeth Mary Dei sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr yr ardal. Mae'n credu yn angerddol bod angen gwell darpariaeth ddiwedd oes i'r henoed ac i'r sawl sydd â Dementia, yn enwedig ar ôl gofalu am ei rhieni. Mae hi hefyd yn gwybod pa mor ysgytwol yw colli aelod o'r teulu yn ddisymwth. Mae hi'n treulio ei amser heddiw yn rhannu ei phrofiadau yn y gobaith o fedru cynorthwyo eraill.