Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editor: Podcast
  • Duración: 474:43:00
  • Mas informaciones

Informações:

Sinopsis

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episodios

  • Roger Scully

    08/03/2018 Duración: 46min

    Yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, yw gwestai Beti George. Cafodd ei eni a'i fagu yn Luton, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Thalaith Ohio. Ymunodd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn 2012, a chyn hynny Roger oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth jazz, yn aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.

  • Tim Hartley

    25/02/2018 Duración: 49min

    Un o gyfarwyddwyr elusen Gôl Cymru, sydd wedi ei enwebu am wobr Dewi Sant, yw gwestai Beti George. Mae Tim Hartley yn gyn-newyddiadurwr ac yn gyn-gyfarwyddwr materion corfforaethol S4C ac wrth ei fodd yn teithio'r byd i wylio pêl-droed.

  • John Rea

    18/02/2018 Duración: 50min

    Aeth John Rea i Ysgol Gyfun Llanhari ac wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bu'n astudio cwrs cyfansoddi dan oruchwyliaeth yr Athro Alun Hoddinott. Gan weithio o'i stiwdio recordio yng Nghaerdydd, mae John yn mwynhau arbrofi gydag offeryniaeth draddodiadol a thechnoleg stiwdio fel ei gilydd. Mae wedi ennill dwy wobr BAFTA yn y categori 'Cerddoriaeth Wreiddiol Orau', ac wedi cydweithio gyda sawl artist o'r byd pop a roc, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Charlotte Church a John Cale.

  • Judith Owen

    11/02/2018 Duración: 50min

    Daw Judith Owen o'r Bala'n wreiddiol, yn brifathrawes yn ers 20 mlynedd a mwy ar ôl cyfnod fel gwarchodwraig ac arweinydd Cylch Meithrin. Mae ganddi hi a'i gwr, Rhys, hefyd fusnes meithrinfa plant yn Llanwnda ers 14 mlynedd. Mae ganddynt ferch, Neli sydd yn 9 oed. Fe'i ganwyd ar ôl derbyn triniaeth IVF a gymysgodd had Rhys gydag ŵy gan chwaer Judith. Mae Judith a Rhys hefyd yn maethu plant.

  • Robert David

    04/02/2018 Duración: 49min

    Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy.Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas.Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar ôl hir feddwl dyma benderfynu gadael y ddrama a dilyn ei freuddwyd i fod yn gynllunydd mewnol. Symudodd i Efrog Newydd i astudio, gan dderbyn Tystysgrif mewn Cynllunio o'r Parsons School of Design, Manhattan.Cafodd gyfnod wedyn yn adnewyddu tai ar raglenni teledu ond mae bellach yn ôl yn Llŷn, yn byw gyda'i bartner ac wedi sefydlu ei gwmni cynllunio mewnol ei hun.

  • Manon Steffan Ros

    28/01/2018 Duración: 44min

    Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grŵp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.

  • Duncan Brown

    21/01/2018 Duración: 45min

    Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar ôl 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuodd ddarllen gwaith Kate Roberts a T.H. Parry Williams a phenderfynu ei fod am ddychwelyd i Gymru i fyw a dyna ble y magodd ei ferch, Beca. Ar ôl rhoi'r gorau i ddysgu, treuliodd Duncan Brown gweddill ei yrfa yn rheoli coedwigoedd Dolgarrog ac Abergynolwyn ac yn gweithio i warchodfeydd natur. Cafodd y syniad o greu'r papur Llên y Llysiau, sydd bellach yn wefan dan yr enw Llên Natur ac sydd yn cyd-weithio'n agos gyda Chymdeithas Edward Llwyd.

  • Iwan John

    14/01/2018 Duración: 48min

    Yr actor Iwan John yw gwestai Beti George. Ganed Iwan yn Aberdâr ond fe symudodd y teulu i Abergwaun pan oedd yn dair oed. Yn un o dri o frodyr, fe gafodd ei addysg yn ysgol gynradd Abergwaun cyn symud unwaith eto, i Mynachlog-ddu y tro hwn. Mae Iwan yn adnabyddus am bortreadu cymeriadu doniol ac mae wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion am ei gyfraniadau i deledu plant Cymru, yn eu plith Bwgan, Twm Tisian, Eddie Butler a DJ Sâl. Ond yn ogystal â rhaglenni plant mae wedi bod yn rhan o sawl rhaglen ddrama: Caryl, Cara Fi, Tair Chwaer a Beryl, Meryl a Cheryl.

  • 07/01/2018

    07/01/2018 Duración: 47min

    Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd nôl i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

  • Gwion Hallam

    17/12/2017 Duración: 49min

    Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma. Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gweithio yng Nghaernarfon fel cynhyrchydd teledu ac wedi creu rhaglenni yn arsylwi'r berthynas rhwng plant bychain a phobl sy'n byw gyda dementia. Cafodd ei gyffwrdd gan y profiad, a dyna'r hedyn ysbrydolodd ei gerdd "Trwy Ddrych" a arweiniodd at ennill y Goron.

  • Lowri Ann Richards

    10/12/2017 Duración: 49min

    Magwyd Lowri ar fferm Glanllynau ger Chwilog. Aeth i'r ysgol yng Nghricieth ac yna i ysgol breswyl Howell's yn Ninbych cyn mynd i'r coleg yn Llundain. Ar ôl gadel y coleg bu'n aelod o'r grwpiau pop Visage a Pleasure & the Beast. Mi sefydlodd y grŵp Shock gyda Gary Numan ac mi berfformiodd yn Wembley hefyd, cyn cyrraedd y 10 uchaf yn y siartiau Prydeinig gyda'r grŵp Tight Fit. Bu Lowri mewn sawl parti cofiadwy lle'r oedd Spandau Ballet, Boy George, Richard Branson ac Elton John yno hefyd. Mae'n siarad yn agored iawn ynglŷn â'i hanes gyda chyffuriau ac yn falch iawn o'i phenderfyniad i ddychwelyd i Gricieth ac at ei gwreiddiau.

  • Helgard Krause

    05/12/2017 Duración: 48min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r Almaenes Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.Ar ôl cael gradd mewn gwleidyddiaeth yn Berlin, aeth i Brighton i astudio llenyddiaeth Saesneg, a dyna ddechrau ar yrfa ym maes cyhoeddi.Roedd ei swydd gyntaf gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn 2002, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae hi hefyd yn siarad Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg, a dysgodd Rwseg pan oedd yn byw yn Rwsia am flwyddyn. Yn wir, mae'n credu'n gryf y dylai pawb ddysgu iaith pa bynnag wlad y maen nhw'n byw ynddi.Ar ôl symud i Wasg Prifysgol Cymru am gyfnod, daeth yn Brif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn 2017, a mae'n dweud wrth Beti fel y mae'n mwynhau'r her honno.Mae hefyd yn sôn am effaith anodd a thrist yr Ail Ryfel Byd ar ei theulu, ac am y profiad o ddweud wrth ei rhieni ei bod yn hoyw.

  • Ieuan Edwards

    03/12/2017 Duración: 52min

    Cafodd Ieuan Edwards brentisiaeth gyda chigydd yn Llanrwst ar ôl gadael yr ysgol, a sylweddolodd ei fod yn mwynhau delio â chig o safon, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid.Pan yn 20 oed, gwelodd hysbyseb mewn papur lleol bod siop ar werth yng Nghonwy. Fe'i prynodd, ac mae'n dal yno hyd heddiw, yn cyflogi nifer o bobl leol.Heblaw am y busnes a'r teulu, ceir yw ei gariad pennaf.

  • Rhydian Bowen Phillips

    16/11/2017 Duración: 46min

    Cyflwynydd a chyn-aelod o'r band Mega yw gwestai Beti George yn y rhaglen hon.Cafodd Rhydian Bowen Phillips ei eni yn Aberdâr, ond symudodd y teulu i'r Rhondda, ac yno y bu ei dad yn weinidog.Bu'n ddisgybl yn Ysgol Llwyncelyn, ac roedd ymysg y cyntaf o ddisgyblion Ysgol Gyfun y Cymer, sydd yn destun balchder iddo.Aeth i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, a gweld hysbyseb yn holi am aelodau ar gyfer band newydd sbon. Y canlyniad oedd ffurfio Mega.Mae Rhydian wedi gweithio fel cyflwynydd Planed Plant, La Bamba, i-dot ac Uned 5, ac wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru.Wrth sgwrsio gyda Beti, fe yw llais y stadiwm yn ystod gemau pêl-droed Cymru a Chaerdydd.

  • Eryl Besse

    12/11/2017 Duración: 48min

    Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau.Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd.Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.

  • Sel Williams

    05/11/2017 Duración: 49min

    Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog.Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud â datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar ôl ymddeol.Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nhw yng nghyd-destun un o ardaloedd tlotaf Gorllewin Ewrop.Mae ganddo deimladau cryf am Gymru hefyd, a chyfraniad posib y wlad a'i phobl i'r byd yn ehangach. Ai'r cyfryngau cymdeithasol ydi'r ateb, tybed, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau fel prifysgolion?

  • Catharine Huws Nagashima

    29/10/2017 Duración: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda Catharine Huws Nagashima.Wedi'i geni yn Llundain, symudodd y teulu i Sir Fôn pan oedd ond yn bum mis oed.Peiriannydd a oedd wedi astudio cerfluniaeth yn Fienna oedd ei thad, ac artist a bardd oedd ei mham. Does ryfedd, felly, i Catharine ei hun deithio'r byd.Ar ôl cael ysgoloriaeth gan Lywodraeth Ffrainc i astudio yno, aeth ar ei beic modur bob cam o Lundain i Wlad Groeg, ac yng Ngroeg y cyfarfodd â'i gŵr, Kochi. Symudodd y ddau i Japan, a mae'r teulu'n dal yno hyd heddiw, yn byw yn Zushi y tu allan i Tokyo.

  • David Sinclair

    22/10/2017 Duración: 47min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair.Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o waith mewn eglwys yn Glasgow, mae ef a'i wraig Mary yn paratoi i symud i Prague, gyda'r bwriad o ymddeol ymhen rhyw bedair blynedd.

  • Andrew Tamplin

    15/10/2017 Duración: 49min

    Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin.Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal.Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn.Ar ôl ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd.Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu tŷ yn Y Barri.

  • Elin Jones

    08/10/2017 Duración: 50min

    Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones.Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg.Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth.Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru.Mae uchafbwyntiau ei gyrfa'n cynnwys blynyddoedd o fod yn Weinidog Materion Gwledig Cymru, yn ystod cyfnod o gydlywodraethu gyda Llafur.Hi yw Llywydd y Cynulliad erbyn hyn, sy'n golygu aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser, yn ogystal â gweithio a chymdeithasu ar yr un pryd. Oherwydd hynny, does dim llawer o amser i hamddena.

página 17 de 32